Hen Destament

Testament Newydd

Job 41:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “A fedri di dynnu Lefiathanallan â bach,neu ddolennu rhaff am ei dafod?

2. A fedri di roi cortyn am ei drwyn,neu wthio bach i'w ên?

3. A wna ef ymbil yn daer arnat,neu siarad yn addfwyn â thi?

4. A wna gytundeb â thi,i'w gymryd yn was iti am byth?

5. A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn,neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?

6. A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano,i'w rannu rhwng y gwerthwyr?

7. A osodi di bigau haearn yn ei groen,a bachau pysgota yn ei geg?

8. Os gosodi dy law arno,fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.

9. Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch;onid yw ei olwg yn peri arswyd?

10. Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;a phwy a all sefyll o'i flaen?

11. Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddoo'r cyfan sydd gennyf dan y nef?

12. Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,ei gryfder a'i ffurf gytbwys.

13. Pwy a all agor ei wisg uchaf,neu drywanu ei groen dauddyblyg?

Darllenwch bennod gyflawn Job 41