1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2. “Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd?Eto pwy a all atal geiriau?
3. Wele, buost yn cynghori llawerac yn nerthu'r llesg eu dwylo;
4. cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,a chadarnhau'r gliniau gwan.
5. Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.
6. Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti,ac uniondeb dy fywyd yn obaith?
7. Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog,a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?
8. Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbulac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.
9. Difethir hwy gan anadl Duw,a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.
10. Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf;pydra dannedd y llewod ifanc.
11. Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth,a gwneir yn amddifad genawon y llewes.
12. ‘Daeth gair ataf fi yn ddirgel;daliodd fy nghlust sibrwd ohono
13. yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos,pan ddaw trymgwsg ar bawb.’
14. Daeth dychryn a chryndod arnaf,a chynhyrfu fy holl esgyrn.
15. Llithrodd awel heibio i'm hwyneb,a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16. Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd;yr oedd ffurf o flaen fy llygaid;bu distawrwydd, yna clywais lais:
17. ‘A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw,ac yn burach na'i Wneuthurwr?
18. Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision,ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,
19. beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai,a'u sylfeini mewn pridd,y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
20. Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr,llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.
21. Pan ddatodir llinyn eu pabell,oni fyddant farw heb ddoethineb?’ ”