Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?

36. Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,a deall i'r niwl?

37. Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau?A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,

38. nes bod llwch yn mynd yn llaid,a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?

39. “Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew,a diwallu angen y llewod ifanc,

Darllenwch bennod gyflawn Job 38