Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:27-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?

28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,

30. i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?

31. A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?

32. A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?

33. A wyddost ti reolau'r awyr?A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?

Darllenwch bennod gyflawn Job 38