22. “A fuost ti yn ystordai'r eira,neu'n gweld cistiau'r cesair?
23. Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod,at ddydd brwydr a rhyfel.
24. Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni,ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?
25. “Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw,a llwybr i'r daranfollt,
26. i lawio ar dir heb neb ynddo,a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,
27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?
28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?
29. O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,
30. i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?
31. A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?
32. A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?
33. A wyddost ti reolau'r awyr?A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?
34. “A fedri di alw ar y cwmwli beri i ddyfroedd lifo drosot?
35. A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?