Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:

2. “Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngorâ geiriau diwybod?

3. Gwna dy hun yn barod i'r ornest;fe holaf fi di, a chei dithau ateb.

4. “Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear?Ateb, os gwyddost.

5. Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod!Pwy a estynnodd linyn mesur arni?

6. Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,a phwy a osododd ei chonglfaen?

7. Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,a'r holl angylion yn gorfoleddu,

8. pan gaewyd ar y môr â dorau,pan lamai allan o'r groth,

9. pan osodais gwmwl yn wisg amdano,a'r caddug yn rhwymyn iddo,

10. a phan drefnais derfyn iddo,a gosod barrau a dorau,

11. a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?

12. “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y borea dangos ei lle i'r wawr,

13. er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,i ysgwyd y drygionus ohoni?

14. Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.

Darllenwch bennod gyflawn Job 38