Hen Destament

Testament Newydd

Job 37:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Am hyn hefyd y mae fy nghalonyn cynhyrfu,ac yn llamu o'i lle.

2. Gwrandewch ar daran ei lais,a'r atsain a ddaw o'i enau.

3. Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren,ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.

4. Ar eu hôl fe rua;tarana â'i lais mawr,ac nid yw'n eu hatalpan glywir ei lais.

5. Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais;gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.

Darllenwch bennod gyflawn Job 37