Hen Destament

Testament Newydd

Job 33:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath â thithau;o glai y'm lluniwyd innau hefyd.

7. Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu;ni fyddaf yn llawdrwm arnat.

8. “Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw,a chlywais innau dy eiriau'n glir:

9. ‘Rwy'n lân, heb drosedd;rwy'n bur heb gamwedd.

10. Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn,ac yn f'ystyried yn elyn iddo,

11. yn gosod fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio fy holl ffyrdd.’

12. “Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti:Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.

Darllenwch bennod gyflawn Job 33