Hen Destament

Testament Newydd

Job 31:33-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill,trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes,

34. am fy mod yn ofni'r dyrfa,a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn,a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan?

35. O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf!Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb,a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wŷs.

36. Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau,a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.

37. Rhof gyfrif iddo o'm camau,a nesáu ato fel tywysog.

38. Os gwaeddodd fy nhir yn f'erbyn,a'i gwysi i gyd yn wylo;

39. os bwyteais ei gynnyrch heb dalu amdano,ac ennyn atgasedd ei berchenogion;

40. yna tyfed mieri yn lle gwenith,a chwyn yn lle haidd.”Dyma derfyn geiriau Job.

Darllenwch bennod gyflawn Job 31