Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Erlidir hwy o blith pobl,a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.

6. Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd,ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.

7. Y maent yn nadu o ganol y perthi;closiant at ei gilydd o dan y llwyni.

8. Pobl ynfyd a dienw ydynt;fe'u gyrrwyd allan o'r tir.

9. “Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;yr wyf yn destun gwawd iddynt.

10. Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.

11. Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.

12. Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.

13. Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.

14. Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 30