Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.

12. Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.

13. Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.

14. Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.

15. Daeth dychryniadau arnaf;gwasgerir fy urddas fel gan wynt;diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.

Darllenwch bennod gyflawn Job 30