Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen,ie, rhai sy'n iau na mi,rhai na buaswn yn ystyried eu tadaui'w gosod gyda'm cŵn defaid.

2. Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi,gan fod eu hegni wedi diflannu?

3. Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd,yn crafu yn y tir sych a diffaith.

4. Casglant yr hocys a dail y prysglwyna gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.

5. Erlidir hwy o blith pobl,a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.

6. Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd,ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.

Darllenwch bennod gyflawn Job 30