1. Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.
2. Meddai Job:
3. “Difoder y dydd y'm ganwyd,a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.
4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,ac na lewyrched goleuni arno.
5. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.
6. Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,ac na ddoed i blith nifer y misoedd.