Hen Destament

Testament Newydd

Job 29:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “O na byddwn fel yn yr amser gynt,yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,

3. pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen,a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;

4. pan oeddwn yn nyddiau f'anterth,a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;

5. pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi,a'm plant o'm cwmpas.

6. Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth,ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.

Darllenwch bennod gyflawn Job 29