2. “O na byddwn fel yn yr amser gynt,yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,
3. pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen,a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;
4. pan oeddwn yn nyddiau f'anterth,a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;
5. pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi,a'm plant o'm cwmpas.
6. Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth,ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
7. “Awn allan i borth y ddinas,ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwâr;
8. a phan welai'r llanciau fi, cilient,a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;
9. peidiai'r arweinwyr â llefaru,a rhoddent eu llaw ar eu genau;
10. tawai siarad y pendefigion,a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.
11. “Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,a phan welai llygad, canmolai fi;
12. oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai,a'r amddifad a'r diymgeledd.
13. Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf,a gwnawn i galon y weddw lawenhau.
14. Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf;yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.
15. Yr oeddwn yn llygaid i'r dall,ac yn draed i'r cloff.
16. Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.