Hen Destament

Testament Newydd

Job 28:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8. ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,ac na theithiodd y llew arno.

9. Estyn dyn ei law am y gallestr,a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10. Egyr dwnelau yn y creigiau,a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.

11. Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.

12. Ond pa le y ceir doethineb?a pha le y mae trigfan deall?

13. Ni ŵyr neb ble mae ei chartref,ac nis ceir yn nhir y byw.

14. Dywed y dyfnder, “Nid yw gyda mi”;dywed y môr yntau, “Nid yw ynof fi.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 28