Hen Destament

Testament Newydd

Job 28:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir,nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir.

17. Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial,na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.

18. Ni bydd sôn am gwrel a grisial;y mae meddu doethineb yn well na gemau.

19. Ni ellir cymharu ei gwerth â'r topas o Ethiopia,ac nid ag aur coeth y prisir hi.

20. O ble y daw doethineb?a phle mae trigfan deall?

21. Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw,a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.

22. Dywedodd Abadon a marwolaeth,“Clywsom â'n clustiau sôn amdani.”

23. Duw sy'n deall ei ffordd;y mae ef yn gwybod ei lle.

24. Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear,a gweld popeth sy dan y nefoedd.

25. Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt,a rhannu'r dyfroedd â mesur,

26. a gosod terfyn i'r glaw,a ffordd i'r mellt a'r taranau,

27. yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi,fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.

28. A dywedodd wrth ddynolryw,“Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb,a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 28