Hen Destament

Testament Newydd

Job 24:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.

8. Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.

9. “Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.

10. “Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,a newynant wrth gasglu ysgubau.

11. Gwasgant yr olew rhwng y meini;sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.

Darllenwch bennod gyflawn Job 24