Hen Destament

Testament Newydd

Job 24:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Y mae'r annuwiol yn symud terfynau,ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.

3. Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,a thywysant ymaith ych y weddw.

4. Gwthiant y tlawd o'r ffordd,a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.

5. Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.

6. Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,a lloffant winllan yr anghyfiawn.

7. Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.

8. Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.

9. “Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.

10. “Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,a newynant wrth gasglu ysgubau.

11. Gwasgant yr olew rhwng y meini;sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.

12. O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;ond ni rydd Duw sylw i'w cri.

13. “Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni,y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd,nac yn aros yn ei lwybrau.

14. Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofruddi ladd yr anghenus a'r tlawd.Yn y nos y gweithia'r lleidr;y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.

15. Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos,gan ddweud, ‘Nid oes neb yn fy ngweld’,ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn Job 24