Hen Destament

Testament Newydd

Job 24:12-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;ond ni rydd Duw sylw i'w cri.

13. “Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni,y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd,nac yn aros yn ei lwybrau.

14. Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofruddi ladd yr anghenus a'r tlawd.Yn y nos y gweithia'r lleidr;y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.

15. Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos,gan ddweud, ‘Nid oes neb yn fy ngweld’,ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.

16. Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd—y rhain na wyddant beth yw goleuni.

17. Y mae'r bore yr un fath â'r fagddu iddynt;eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.

18. “Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt;melltithiwyd eu cyfran yn y tir;ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.

19. Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar ôl eira,felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.

20. Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn,ac ni chofir hwy mwyach;torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.

21. Drygant yr un na ddygodd blant,ac ni wnânt dda i'r weddw.

22. “Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth,a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.

Darllenwch bennod gyflawn Job 24