10. “Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,a newynant wrth gasglu ysgubau.
11. Gwasgant yr olew rhwng y meini;sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
12. O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;ond ni rydd Duw sylw i'w cri.
13. “Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni,y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd,nac yn aros yn ei lwybrau.
14. Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofruddi ladd yr anghenus a'r tlawd.Yn y nos y gweithia'r lleidr;y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.
15. Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos,gan ddweud, ‘Nid oes neb yn fy ngweld’,ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.
16. Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd—y rhain na wyddant beth yw goleuni.
17. Y mae'r bore yr un fath â'r fagddu iddynt;eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.
18. “Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt;melltithiwyd eu cyfran yn y tir;ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.
19. Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar ôl eira,felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.
20. Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn,ac ni chofir hwy mwyach;torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.
21. Drygant yr un na ddygodd blant,ac ni wnânt dda i'r weddw.