Hen Destament

Testament Newydd

Job 24:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog,ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod.

2. Y mae'r annuwiol yn symud terfynau,ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.

3. Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,a thywysant ymaith ych y weddw.

4. Gwthiant y tlawd o'r ffordd,a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.

5. Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.

6. Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,a lloffant winllan yr anghyfiawn.

7. Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.

Darllenwch bennod gyflawn Job 24