Hen Destament

Testament Newydd

Job 22:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;a gwatwerir hwy gan y dieuog.

20. Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf,ac ysodd y tân eu llawnder.

21. “Cytuna ag ef, a chei lwyddiant;trwy hyn y daw daioni i ti.

22. Derbyn gyfarwyddyd o'i enau,a chadw ei eiriau yn dy galon.

23. Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd,a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,

24. os ystyri aur fel pridd,aur Offir fel cerrig y nentydd,

25. yna bydd yr Hollalluog yn aur iti,ac yn arian pur.

Darllenwch bennod gyflawn Job 22