Hen Destament

Testament Newydd

Job 22:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. A gedwi di at yr hen fforddy rhodiodd y drygionus ynddi?

16. Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.

17. Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?

18. Er iddo lenwi eu tai â daioni,pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho.

19. Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;a gwatwerir hwy gan y dieuog.

20. Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf,ac ysodd y tân eu llawnder.

21. “Cytuna ag ef, a chei lwyddiant;trwy hyn y daw daioni i ti.

22. Derbyn gyfarwyddyd o'i enau,a chadw ei eiriau yn dy galon.

23. Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd,a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,

24. os ystyri aur fel pridd,aur Offir fel cerrig y nentydd,

25. yna bydd yr Hollalluog yn aur iti,ac yn arian pur.

26. Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog,a dyrchafu dy wyneb at Dduw.

27. Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy,a byddi'n cyflawni dy addunedau.

28. Pan wnei gynllun, fe lwydda iti,a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.

Darllenwch bennod gyflawn Job 22