Hen Destament

Testament Newydd

Job 22:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. A gedwi di at yr hen fforddy rhodiodd y drygionus ynddi?

16. Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.

17. Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?

18. Er iddo lenwi eu tai â daioni,pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho.

19. Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;a gwatwerir hwy gan y dieuog.

20. Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf,ac ysodd y tân eu llawnder.

21. “Cytuna ag ef, a chei lwyddiant;trwy hyn y daw daioni i ti.

22. Derbyn gyfarwyddyd o'i enau,a chadw ei eiriau yn dy galon.

Darllenwch bennod gyflawn Job 22