5. Ond estyn di dy law a chyffwrdd â'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.”
6. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes.”
7. Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun,
8. a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw.
9. Dywedodd ei wraig wrtho, “A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw.”
10. Ond dywedodd ef wrthi, “Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?” Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau.
11. Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno â'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro.
12. Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr.
13. Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.