Hen Destament

Testament Newydd

Job 19:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam â mi,ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.

7. Os gwaeddaf, ‘Trais’, ni chaf ateb;os ceisiaf help, ni chaf farn deg.

8. Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc,a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.

9. Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,a symudodd y goron oddi ar fy mhen.

10. Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.

11. Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.

12. Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.

Darllenwch bennod gyflawn Job 19