1. Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2. “Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau?Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.
3. Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid,ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?
4. Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid!A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di?A symudir y graig o'i lle?
5. “Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,ac ni chynnau fflam ei dân.
6. Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.
7. Byrhau a wna'i gamau cryfion,a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.
8. Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.
9. Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.
10. Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,ac y mae magl ar ei lwybr.