Hen Destament

Testament Newydd

Job 17:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau;beddrod fydd fy rhan.

2. Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas;pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.

3. “Gosod dy hun yn feichiau drosof;pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?

4. Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall,ni fydd i ti eu dyrchafu.

5. Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion,bydd llygaid ei blant yn pylu.

6. “Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl;yr wyf yn un y maent yn poeri arno.

7. Pylodd fy llygaid o achos gofid;aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.

8. Synna'r cyfiawn at y fath beth,a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.

9. Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd,a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.

Darllenwch bennod gyflawn Job 17