Hen Destament

Testament Newydd

Job 16:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;llygadrytha fy ngelynion arnaf.

10. Cegant yn wawdlyd arnaf,trawant fy ngrudd mewn dirmyg,unant yn dyrfa yn f'erbyn.

11. Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol,a'm taflu i ddwylo'r anwir.

12. Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;gosododd fi yn nod iddo anelu ato.

13. Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.

14. Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 16