Hen Destament

Testament Newydd

Job 16:8-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn;saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.

9. Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;llygadrytha fy ngelynion arnaf.

10. Cegant yn wawdlyd arnaf,trawant fy ngrudd mewn dirmyg,unant yn dyrfa yn f'erbyn.

11. Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol,a'm taflu i ddwylo'r anwir.

12. Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;gosododd fi yn nod iddo anelu ato.

13. Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.

14. Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.

15. “Gwnïais sachliain am fy nghroen,a chuddiais fy nghorun yn y llwch.

16. Cochodd fy wyneb gan ddagrau,daeth düwch ar fy amrannau,

17. er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.

18. “O ddaear, na chuddia fy ngwaed,ac na fydded gorffwys i'm cri.

19. Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst,ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.

20. Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio,difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,

21. fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw,fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.

22. Ychydig flynyddoedd sydd i ddodcyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 16