Hen Destament

Testament Newydd

Job 15:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,ac i'w lwynau dewychu â bloneg,

28. fe drig mewn dinasoedd diffaith,mewn tai heb neb yn byw ynddynt,lleoedd sydd ar fin adfeilio.

29. Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,ac ni chynydda'i olud yn y tir.

30. Ni ddianc rhag y tywyllwch.Deifir ei frig gan y fflam,a syrth ei flagur yn y gwynt.

31. Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,canys gwagedd fydd ei dâl.

Darllenwch bennod gyflawn Job 15