24. Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;llethir ef fel brenin parod i ymosod.
25. Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw,ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,
26. a rhuthro arno'n haerllug,a both ei darian yn drwchus;
27. oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,ac i'w lwynau dewychu â bloneg,
28. fe drig mewn dinasoedd diffaith,mewn tai heb neb yn byw ynddynt,lleoedd sydd ar fin adfeilio.
29. Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,ac ni chynydda'i olud yn y tir.
30. Ni ddianc rhag y tywyllwch.Deifir ei frig gan y fflam,a syrth ei flagur yn y gwynt.
31. Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,canys gwagedd fydd ei dâl.
32. Bydd yn gwywo cyn ei amser,ac ni lasa'i gangen.
33. Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden,a bwrw ei flodau fel olewydden.
34. Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol,ac fe ysa'r tân drigfannau breibwyr.