9. pan synhwyra ddŵr fe adfywia,ac fe flagura fel planhigyn ifanc.
10. Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.
11. Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;
12. felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.
13. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!
14. (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.
15. Gelwit arnaf, ac atebwn innau;hiraethit am waith dy ddwylo.
16. Yna cedwit gyfrif o'm camre,heb wylio fy mhechod;
17. selid fy nhrosedd mewn cod,a chuddid fy nghamwedd.
18. “Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,ac fel y symud y graig o'i lle,
19. ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd,ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd,felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.
20. Parhei i'w orthrymu nes derfydd;newidi ei wedd, a'i ollwng.
21. Pan anrhydeddir ei blant, ni ŵyr;pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.