Hen Destament

Testament Newydd

Job 13:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gwrandewch yn awr ar fy achos,a rhowch ystyriaeth i'm dadl.

7. A ddywedwch gelwydd dros Dduw,a thwyll er ei fwyn?

8. A gymerwch chwi ei blaid,a dadlau dros Dduw?

9. A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?

10. Bydd ef yn sicr o'ch cerydduos cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.

11. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?

Darllenwch bennod gyflawn Job 13