Hen Destament

Testament Newydd

Job 11:6-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,a bod dwy ochr i ddeall!Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.

7. A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?

8. Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?

9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.

10. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?

11. Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?

12. A ddaw'r dwl yn ddeallus—asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?

13. “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;

14. ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;

15. yna gelli godi dy olwg heb gywilydd,a byddi'n gadarn a di-ofn.

16. Fe anghofi orthrymder;fel dŵr a giliodd y cofi amdano.

17. Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd,a'r gwyll fel boreddydd.

18. Byddi'n hyderus am fod gobaith,ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel.

19. Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn;a bydd llawer yn ceisio dy ffafr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 11