Hen Destament

Testament Newydd

Job 11:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi?A gei di watwar heb neb i'th geryddu?

4. Dywedaist, ‘Y mae f'athrawiaeth yn bur,a dilychwin wyf yn d'olwg.’

5. O na lefarai Duw,ac agor ei wefusau i siarad â thi,

6. a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,a bod dwy ochr i ddeall!Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.

7. A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?

8. Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?

9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.

10. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?

11. Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?

12. A ddaw'r dwl yn ddeallus—asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?

13. “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;

14. ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;

Darllenwch bennod gyflawn Job 11