Hen Destament

Testament Newydd

Job 1:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Yr oedd dy feibion a'th ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,

19. a daeth gwynt nerthol dros yr anialwch a tharo pedair congl y tŷ, a syrthiodd ar y bobl ifainc, a buont farw; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”

20. Yna cododd Job a rhwygodd ei fantell, eilliodd ei ben, a syrthiodd ar y ddaear ac ymgrymu

21. a dweud,“Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno.Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith.Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”

22. Yn hyn i gyd ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Job 1