Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 9:16-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Gwasgaraf hwy ymysg cenhedloedd nad ydynt hwy na'u hynafiaid wedi eu hadnabod, ac anfonaf gleddyf ar eu hôl nes gorffen eu difetha.”

17. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Ystyriwch! Galwch ar y galar-wragedd i ddod;anfonwch am y gwragedd medrus, iddynt hwythau ddod.

18. Bydded iddynt frysio, a chodi cwynfan amdanom,er mwyn i'n llygaid ollwng dagrau,a'n hamrannau ddiferu dŵr.

19. Canys clywyd sŵn cwynfan o Seion,‘Pa fodd yr aethom yn anrhaith,a'n gwaradwyddo yn llwyr?Gadawsom ein gwlad, bwriwyd i lawr ein trigfannau.’ ”

20. Clywch, wragedd, air yr ARGLWYDD,a derbynied eich clust air ei enau ef.Dysgwch gwynfan i'ch merched,a galargan bawb i'w gilydd.

21. Y mae angau wedi dringo trwy ein ffenestri,a dod i'n palasau,i ysgubo'r plant o'r heolydda'r rhai ifainc o'r lleoedd agored.

22. Llefara, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“ ‘Bydd celaneddau yn disgyn fel tom ar wyneb maes,fel ysgubau ar ôl y medelwr heb neb i'w cynnull.’ ”

23. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb,na'r cryf yn ei gryfder, na'r cyfoethog yn ei gyfoeth.

24. “Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn,” medd yr ARGLWYDD.

25. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “pan gosbaf bob cenedl enwaededig,

26. sef yr Aifft, Jwda ac Edom, plant Ammon a Moab, a phawb o drigolion yr anialwch sydd â'u talcennau'n foel. Oherwydd y mae'r holl genhedloedd yn ddienwaededig, a holl dŷ Israel heb enwaedu arnynt yn eu calon.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 9