3. Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?
5. Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith,ac y parhaodd Jerwsalem i encilio?Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd.
6. Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn;nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, “Beth a wneuthum?”Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.
7. Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor;y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod;ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.
8. Sut y dywedwch, “Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni”?Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni.
9. Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd.Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD;pa ddoethineb sydd ganddynt felly?
10. “ ‘Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill,a'u meysydd i'w concwerwyr.Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw;o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
11. Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw merch fy mhobl,gan ddweud, “Heddwch! Heddwch!”—ac nid oes heddwch.
12. A oes cywilydd arnynt pan wnânt ffieidd-dra?Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido.Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;yn nydd eu cosbi fe gwympant,’ medd yr ARGLWYDD.
13. “ ‘Pan gasglwn hwy,’ medd yr ARGLWYDD,‘nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren;gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.’ ”
14. Pam yr oedwn? Ymgasglwch ynghyd,inni fynd i'r dinasoedd caerog, a chael ein difetha yno.Canys yr ARGLWYDD ein Duw a barodd ein difetha;rhoes i ni ddŵr gwenwynig i'w yfed,oherwydd pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD.
15. Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni;am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.
16. Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan;crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru.Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder,y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.