Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Yn yr amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem,

2. a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.

3. Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 8