Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 8:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Yn yr amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem,

2. a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.

3. Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?

5. Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith,ac y parhaodd Jerwsalem i encilio?Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd.

6. Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn;nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, “Beth a wneuthum?”Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.

7. Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor;y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod;ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.

8. Sut y dywedwch, “Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni”?Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni.

9. Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd.Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD;pa ddoethineb sydd ganddynt felly?

10. “ ‘Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill,a'u meysydd i'w concwerwyr.Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw;o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals.

11. Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw merch fy mhobl,gan ddweud, “Heddwch! Heddwch!”—ac nid oes heddwch.

12. A oes cywilydd arnynt pan wnânt ffieidd-dra?Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido.Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;yn nydd eu cosbi fe gwympant,’ medd yr ARGLWYDD.

13. “ ‘Pan gasglwn hwy,’ medd yr ARGLWYDD,‘nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren;gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 8