Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 52:24-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Cymerodd pennaeth y gosgorddlu Seraia y prif offeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a thri cheidwad y drws;

25. a chymerodd o'r ddinas y swyddog oedd yn gofalu am y gwŷr rhyfel, a saith o ddynion o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ac ysgrifennydd pennaeth y fyddin, a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o'r werin a gafwyd yn y ddinas.

26. Cymerodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, y rhai hyn, a mynd at frenin Babilon yn Ribla.

27. Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i gwlad ei hun.

28. Dyma'r bobl a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar: yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon;

29. yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchadnesar, caethgludwyd o Jerwsalem wyth gant tri deg a dau o bobl;

30. yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchadnesar, caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, saith gant pedwar deg a phump o Iddewon. Yr oedd y cyfanswm yn bedair mil chwe chant.

31. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, ffafr â Jehoiachin brenin Jwda, a'i ddwyn allan o'r carchar,

32. a dweud yn deg wrtho, a pheri iddo eistedd ar sedd uwch na seddau'r brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon.

33. Felly diosgodd ei ddillad carchar, a bu'n westai i'r brenin weddill ei ddyddiau.

34. Ei gynhaliaeth oedd y dogn dyddiol a roddid iddo gan frenin Babilon, yn ôl gofyn pob dydd, holl ddyddiau ei einioes hyd ddydd ei farw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 52