Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:43-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith,yn grastir ac anialdir,heb neb yn trigo ynddyntnac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.

44. Cosbaf Bel ym Mabilon,a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd;ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach,canys syrthiodd muriau Babilon.

45. Ewch allan ohoni, fy mhobl;achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD.

46. “Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.

47. Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.

48. Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn,” medd yr ARGLWYDD.

49. “Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon.

50. Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.

51. ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’

52. “Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.

53. Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi,” medd yr ARGLWYDD.

54. “Clyw! Daw gwaedd o Fabilon, dinistr mawr o wlad y Caldeaid.

55. Oherwydd anrheithia'r ARGLWYDD Fabilon, a distewi ei sŵn mawr. Bydd ei thonnau'n rhuo fel dyfroedd yn dygyfor, a'i thwrf yn codi.

56. Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn.

57. Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwŷr cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro,” medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

58. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon;llosgir ei phyrth uchel â thân;yn ofer y llafuriodd y bobloedd,a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.”

59. Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.

60. Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.

61. A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, “Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn,

62. ac yna dywed, ‘O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51