Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:39-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn,meddwaf hwy nes y byddant yn chwil,ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro,” medd yr ARGLWYDD.

40. “Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa,fel hyrddod neu fychod geifr.

41. “O fel y goresgynnwyd Babilonac yr enillwyd balchder yr holl ddaear!O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!

42. Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon,a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.

43. Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith,yn grastir ac anialdir,heb neb yn trigo ynddyntnac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.

44. Cosbaf Bel ym Mabilon,a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd;ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach,canys syrthiodd muriau Babilon.

45. Ewch allan ohoni, fy mhobl;achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD.

46. “Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.

47. Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.

48. Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn,” medd yr ARGLWYDD.

49. “Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon.

50. Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.

51. ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51