Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Enillwyd y rhydau,llosgwyd y corsydd â thân,a daeth braw ar wŷr y gwarchodlu.

33. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:‘Y mae merch Babilon fel llawr dyrnu adeg ei fathru;ar fyrder daw amser ei chynhaeaf.’ ”

34. “Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwydgan Nebuchadnesar brenin Babilon;bwriodd fi heibio fel llestr gwag;fel draig fe'm llyncodd;llanwodd ei fol â'm rhannau danteithiol,a'm chwydu allan.”

35. Dyweded preswylydd Seion,“Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!”Dyweded Jerwsalem,“Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!”

36. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot;disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51