Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:28-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Neilltuwch genhedloedd yn ei herbyn,brenhinoedd Media a'i llywodraethwyr a'i swyddogion,a holl wledydd eu hymerodraeth.

29. Bydd y ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen,oherwydd fe saif bwriadau'r ARGLWYDD yn erbyn Babilon,i wneud gwlad Babilon yn anialdir, heb neb yn trigo ynddo.

30. Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd;llechant yn eu hamddiffynfeydd;pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd;llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.

31. Rhed negesydd i gyfarfod negesydd,a chennad i gyfarfod cennad,i fynegi i frenin Babilonfod ei ddinas wedi ei goresgyn o'i chwr.

32. Enillwyd y rhydau,llosgwyd y corsydd â thân,a daeth braw ar wŷr y gwarchodlu.

33. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:‘Y mae merch Babilon fel llawr dyrnu adeg ei fathru;ar fyrder daw amser ei chynhaeaf.’ ”

34. “Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwydgan Nebuchadnesar brenin Babilon;bwriodd fi heibio fel llestr gwag;fel draig fe'm llyncodd;llanwodd ei fol â'm rhannau danteithiol,a'm chwydu allan.”

35. Dyweded preswylydd Seion,“Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!”Dyweded Jerwsalem,“Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!”

36. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot;disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.

37. Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid;yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51