Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:24-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. “Talaf yn ôl i Fabilon ac i holl breswylwyr Caldea yn eich golwg chwi am yr holl ddrwg a wnaethant i Seion,” medd yr ARGLWYDD.

25. “Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr,” medd yr ARGLWYDD,“dinistrydd yr holl ddaear.Estynnaf fy llaw yn dy erbyn,a'th dreiglo i lawr o'r creigiau,a'th wneud yn fynydd llosgedig.

26. Ni cheir ohonot faen congl na charreg sylfaen,ond byddi'n anialwch parhaol,” medd yr ARGLWYDD.

27. “Codwch faner yn y tir,canwch utgorn ymysg y cenhedloedd,neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn;galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd,Ararat, Minni ac Ascenas.Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn,dygwch ymlaen feirch, mor niferus â'r locustiaid heidiog.

28. Neilltuwch genhedloedd yn ei herbyn,brenhinoedd Media a'i llywodraethwyr a'i swyddogion,a holl wledydd eu hymerodraeth.

29. Bydd y ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen,oherwydd fe saif bwriadau'r ARGLWYDD yn erbyn Babilon,i wneud gwlad Babilon yn anialdir, heb neb yn trigo ynddo.

30. Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd;llechant yn eu hamddiffynfeydd;pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd;llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.

31. Rhed negesydd i gyfarfod negesydd,a chennad i gyfarfod cennad,i fynegi i frenin Babilonfod ei ddinas wedi ei goresgyn o'i chwr.

32. Enillwyd y rhydau,llosgwyd y corsydd â thân,a daeth braw ar wŷr y gwarchodlu.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51