10. Bu i'r ARGLWYDD ein cyfiawnhau.Dewch, traethwn yn Seionwaith yr ARGLWYDD ein Duw.
11. “Hogwch y saethau. Llanwch y cewyll.Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd brenhinoedd Media;canys y mae ei fwriad yn erbyn Babilon, i'w dinistrio.Dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial am ei deml.
12. Codwch faner yn erbyn muriau Babilon;cryfhewch y wyliadwriaeth,a darparu gwylwyr a gosod cynllwynwyr;oherwydd bwriadodd a chwblhaodd yr ARGLWYDDyr hyn a lefarodd am drigolion Babilon.
13. Ti, ddinas aml dy drysorau,sy'n trigo gerllaw dyfroedd lawer,daeth diwedd arnat ac ar dy gribddeilio.
14. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd iddo'i hun,‘Diau imi dy lenwi â phoblmor niferus â'r locustiaid;ond cenir cân floddest yn dy erbyn.’ ”
15. Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,a thrwy ei ddeall estynnodd y nefoedd.
16. Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,bydd yn peri i darth godi o eithafoedd y ddaear,yn gwneud mellt â'r glaw, ac yn dwyn allan wyntoedd o'i ystordai.
17. Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.
18. Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.