Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:30-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd,a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.

31. “Dyma fi yn dy erbyn di, yr un balch,”medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,“canys daeth dy ddydd, a'r awr i mi dy gosbi.

32. Tramgwydda'r balch a syrth heb neb i'w godi;cyneuaf yn ei ddinasoedd dân fydd yn difa'i holl amgylchedd.”

33. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng.

34. Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.

35. “Cleddyf ar y Caldeaid,” medd yr ARGLWYDD,“ar breswylwyr Babilon,ar ei swyddogion a'i gwŷr doeth!

36. Cleddyf ar ei dewiniaid,iddynt fynd yn ynfydion!Cleddyf ar ei gwŷr cedyrn,iddynt gael eu difetha!

37. Cleddyf ar ei meirch a'i cherbydau,ac ar y milwyr cyflog yn ei chanol,iddynt fod fel merched!Cleddyf ar ei holl drysorau,iddynt gael eu hysbeilio!

38. Cleddyf ar ei dyfroedd,iddynt sychu!Oherwydd gwlad delwau yw hi,wedi ynfydu ar eilunod.

39. “Am hynny bydd anifeiliaid yr anialdir a'r hiena yn trigo yno, a'r estrys yn cael cartref yno; ni fydd neb yn preswylio yno mwyach, ac nis cyfanheddir o genhedlaeth i genhedlaeth.

40. Fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra a'u cymdogaeth,” medd yr ARGLWYDD, “felly ni fydd neb yn byw yno, nac unrhyw un yn tramwyo ynddi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50